Please wait while JT SlideShow is loading images...
Morawelon Regeneration PartnershipPhoto Title 2

Canolfan Gymunedol Ffordd Llundain

 

Ynghyd â hwyluso llawer o weithgareddau a grwpiau  a amlygwyd yn yr adroddiad hwn,  mae Canolfan Gymunedol Ffordd Llundain  yn parhau i weithredu fel adnodd cymunedol llwyddiannus mewn prif leoliad  o fewn y gymuned.  Mae’r ganolfan, a oedd yn ddiweddar yn dathlu ei Phen-blwydd  yn 4air oed,  wedi mynd y tu draw  i bob disgwyliad, gan gwmpasu dau adeilad, sydd ym mherchnogaeth y  Bartneriaeth. Mae gan Ganolfan Gymunedol Ffordd Llundain  bwyllgor rheoli cyfansoddiadol   yn cynnwys trigolion lleol sy’n rheoli’r rhediad dydd i ddydd  ynghyd â Rheolwr y Ganolfan.   Mae’r Ganolfan yn hollol gynaliadwy, yn cyflogi chwe aelod o staff ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau.

 

 

altCaffi Sunshine Corner/Cornel Heulog :

Mae Caffi  Sunshine Corner/Cornel Heulog  ar agor yn ddyddiol, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, o 9yb i 2.30yp.  Mae’r caffi’n cynnig  detholiad eang  o brydau sydd ar gael i’w bwyta i mewn  neu fynd allan.  Mae’r caffi hefyd yn arlwyo ar gyfer  digwyddiadau a phartïon  o fewn ardal Caergybi.  Dyfarnwyd gwobr arian bum seren  i’r caffi yn ddiweddar drwy Adran Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Ynys Môn.

 

 Pryd ar Glud:

Cytundebir y Ganolfan hefyd  drwy Gyngor Sir Ynys Môn  i ddarparu  Pryd ar Glud drwy Ynys Môn.  Ar hyn o bryd  darperir rhwng  30–38 pryd y dydd.

 

 

altYstafell Ffitrwydd

Fel y crybwyllwyd yn gynharach  yn yr adroddiad hwn  mae Ystafell Ffitrwydd Ffordd Llundain  yn parhau i weithredu  gan gynnig y cyfle i breswylwyr  ymuno ag ystafell ffitrwydd  man eithaf y gelfyddyd am bris cost isel. Gweithredir pob anwythiad  gan hyfforddwr cymwysedig.

 

Bws Bach

Mae gan Ganolfan Gymunedol Ffordd Llundain ei bws bacj 17 sedd ei hun y gellir ei defnydiio gan grwpiau cymunedol a phrosiectau lleol. Noddir yswiriant a gwasanaeth ar gyfer y bws bach ar hyn o bryd gan North Wales Fire and Rescue a W J Davies.

 

altYstafell Gerdd

Mae’r ystafell gerdd seinglos wedi ei chyfarparu’n llawn  yn darparu cyfleuster i fandiau lleol  ymarfer.  Mae’n cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwersi a phrosiectau wedi eu strwythuro  megis gweithgareddau Cerddoriaeth Rheolaeth Lwyr,  Cerdd Gymunedol Cymru a Sblash.

 

 

 

Defnyddwyr y Ganolfan

Mae sefydliadau a grwpiau lleol niferus wedi eu lleoli yn y Ganolfan, a’r cyfan  yn darparu gwasanaethau hanfodol  i’r gymuned.  Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys:

 

Prosiect Lydia

Cais

Adran Addysg, Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol, CSYM

Gair ar y Stryd

Chwaraewyr Penrhos

Want2Work/Eisiau Gweithio

Gwasanaeth Ôl-Mabwysiadu

Y Gwasanaeth Prawf

Fforwm Tenantiaid a Phreswylwyr

Chwaraewyr Penrhos

 

www.holyheadcentre.com