Myfyriwr Gapper
Cymerodd Corrina Huband ran yn llwyddiannus yn y rhaglen Gapper 9 mis prentis Gwaith Ieuenctid wedi ei lleoli ym Morlo. Amcan y rhaglen yw rhoi cyfle i bobl ifanc leol weithredu fel arweinyddion o fewn eu cymuned. Cefnogodd Corrina weithgareddau ieuenctid niferus megis y grŵp merched a’r clybiau ieuenctid yn ogystal ag ennill tystysgrif sylfaenol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. Wedi cwblhau ei lleoliad Gapper, cymerodd Corrina ran yng nghynllun Monallu Menter Môn, lle gweithiodd gyda Morlo drwy wyliau’r haf fel cydlynydd prosiect ar gyfer gweithgareddau Sblash.




