Please wait while JT SlideShow is loading images...
Morawelon Regeneration PartnershipPhoto Title 2

Gweithiwr Prosiect Sgiliau Ieuenctid

 

Crewyd swydd   y Gweithiwr Prosiect Sgiliau Ieuenctid  drwy’r prosiect Prentis Cymunedol  i fwrw trosolwg dros oruchwyliaeth dydd i ddydd  y prentisiaid.  Roedd y swydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gweithgareddau  yn y clwb ieuenctid hŷn.  Yn ystod y flwyddyn gadawodd Chris Burnell y swydd ac ym Mehefin 2010 cyflogwyd Andrew Williams yn Weithiwr Prosiect  Sgiliau Ieuenctid newydd.  Newidiwyd y swydd i gymryd i ystyriaeth ddiwedd y swyddi prentisiaeth  ac mae’n awr  yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc i ddatblygu mentrau  a phrosiectau  a fydd yn cynorthwyo i adeiladu  eu sgiliau a’u gwybodaeth.  Hyd yn hyn y mae  Andrew wedi gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc Morlo ar brosiectau megis  Sblash, Cymorth, Tîm Gweithredu Ieuenctid   a menter Cerdd Gymunedol Cymru.  Mae Andrew hefyd yn astudio ar gyfer ei  Ddiploma mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol  drwy Goleg George Williams, Llundain.