Please wait while JT SlideShow is loading images...
Morawelon Regeneration PartnershipPhoto Title 2

Rank

 

Wedi pum mlynedd daeth y prosiect Prentis Cymunedol a ariennir gan Rank i ben y Medi hwn  gyda Martin Kerr ac Anthony Bates yn cyflawni  NVQ Lefel 2 mewn Saeryddiaeth. Bu i Ken Myers, a adawodd y rhaglen yn 2009 hefyd ennill yr un cymhwyster. 

 

Bu i ymadawiad Ken agor allan y cyfle i brentis newydd  gael ei gyflogi a recriwtiwyd Ashley Beck yn brentis  Amgylcheddol.  Wrth adael y cynllun  enillodd Ashley ddau gymhwyster  NVQ, un mewn Amgylchedd a Chadwraeth a’r ail mewn Garddwriaeth.

 

Ynghyd â mynychu’r coleg, dilynodd bob prentis leoliad gwaith gyda chyflogwr lleol, yn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau  a chael profiad ymarferol yn y swydd.  Cefnogwyd llawer o brosiectau cymunedol hefyd gyda’r prentisiaid yn gweithredu gwaith  ar gyfer sefydliadau a grwpiau megis Methrinfa Morlo, Digartref Ynys Môn, Canolfan Gymunedol Ffordd Llundain, Canolfan Gymunedol Gwelfor a Chlwb Bowlio Peibio.  Cefnogodd y prentisiaid hefyd bobl ifanc eraill  o’r ardal drwy gefnogi gweithgareddau  megis Sblash, Cymorth a’r Clwb Ieuenctid Hŷn.

 

alt