Cynllun Sicrwydd Pobl Hŷn
Yn ystod Mawrth 2010, wedi sicrhau arian yn llwyddiannus drwy gynllun Sicrwydd Pobl Hŷn Cyngor Sir Ynys Môn, cynhaliwyd dau ddigwyddiad ymwybyddiaeth ar gyfer preswylwyr dros 50 oed. Roedd amrywiaeth o asiantaethau wrth law yn ystod y digwyddiadau megis Safonau Masnach, CAB, Canolfan O’ Toole, Heddlu Gogledd Cymru, Age Concern a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru. Rhoddwyd bag diogelwch yn rhad ac am ddim i bawb a fynychodd y digwyddiad ac a gwblhaodd holiadur diogelwch cymunedol Morlo a oedd yn cynnwys larwm personol, gwybodaeth diogelwch, can diogelwch ariannol, pin uwchfioled a magned oergell.




